Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 9(4) o Ddeddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013, i'w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2014 Rhif (Cy.  )

tai, cymru

Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (“y Ddeddf”) yn creu troseddau sy'n ymwneud ag isosod ac ymadael â meddiant ar dai cymdeithasol ac yn darparu ar gyfer ymchwilio i droseddau twyll tai cymdeithasol, a’u herlyn. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 7 ac 8 o'r Ddeddf honno, ac maent yn darparu ar gyfer pwerau sy'n ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth at ddibenion ymchwilio i dwyll tai.

Mae rheoliad 3 yn darparu y caiff awdurdod lleol awdurdodi unigolyn i arfer y pwerau a roddir i swyddog awdurdodedig o dan reoliad 4.

Mae rheoliad 4 yn galluogi swyddogion a awdurdodir o dan reoliad 3 i'w gwneud yn ofynnol i bersonau penodedig ddarparu gwybodaeth at ddibenion ymchwilio i dwyll tai. Y dibenion hyn yw atal, darganfod  neu sicrhau tystiolaeth a fyddai'n arwain at gollfarn ar gyfer un o'r troseddau a restrir yn adran 7(7) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 5 yn darparu ei bod yn drosedd i wrthod neu fethu â darparu gwybodaeth pan fo’n ofynnol gwneud hynny o dan reoliad 4.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer troseddau o dan y Rheoliadau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol.


 Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 9(4) o Ddeddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013, i'w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2014 Rhif   (Cy.  )

TAI, CYMRU

Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                        28 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 7 ac 8 o Ddeddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013([1]).

Yn unol ag adran 9(4) o'r Ddeddf honno, cafodd drafft o'r offeryn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2014.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person sy'n gweithredu yn unol ag unrhyw awdurdodiad at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person hwnnw.

(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)     mae cyfeiriadau at ddogfen yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw beth y cofnodir gwybodaeth ynddo, ar ffurf electronig neu ar unrhyw ffurf arall;

(b)     ystyrir bod y gofyniad i roi hysbysiad ysgrifenedig gan swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni mewn unrhyw achos pan fo cynnwys yr hysbysiad—

                           (i)    wedi ei drosglwyddo i dderbynnydd yr hysbysiad drwy ddull electronig; a

                         (ii)    wedi ei gael gan y person hwnnw ar ffurf sy’n ddarllenadwy ac y gellir ei chofnodi ar gyfer cyfeirio ati yn y dyfodol.

Awdurdodiad gan awdurdodau lleol

3.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff awdurdod lleol roi awdurdodiad i unigolyn i arfer y pwerau a roddir i swyddog awdurdodedig o dan reoliad 4.

(2) Ni chaiff awdurdod lleol roi awdurdodiad i unigolyn onid yw’r person hwnnw—

(a)     yn unigolyn a gyflogir gan yr awdurdod hwnnw; neu

(b)     yn unigolyn a gyflogir gan awdurdod lleol arall neu gydbwyllgor sy’n cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â dibenion ymchwilio i  dwyll tai ar ran yr awdurdod hwnnw.

(3) O ran awdurdodiad a roddir i unigolyn at ddiben y Rheoliadau hyn—

(a)     rhaid iddo fod yn ysgrifenedig a chael ei ddarparu i'r unigolyn hwnnw yn dystiolaeth i'w hawl i arfer pwerau a roddir gan y Rheoliadau hyn;

(b)     caiff gynnwys darpariaeth ynglŷn â'r cyfnod y bydd yr awdurdodiad yn cael effaith; ac

(c)     caiff gyfyngu ar y pwerau sy'n arferadwy yn rhinwedd yr awdurdodiad er mwyn gwahardd eu harfer ac eithrio at ddibenion penodol neu dan amgylchiadau penodol.

(4) Caniateir tynnu awdurdodiad yn ôl yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg gan yr awdurdod lleol a'i rhoddodd.

(5) Rhaid i’r awdurdodiad ysgrifenedig neu’r awdurdodiad a dynnir yn ôl yn ysgrifenedig gan unrhyw awdurdod lleol gael ei lofnodi naill ai gan—

(a)     y swyddog a ddynodir o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989([2]) yn bennaeth ar wasanaeth cyflogedig yr awdurdod; neu

(b)     y swyddog sy’n brif swyddog cyllid yr awdurdod (yn yr ystyr a roddir i “chief finance officer” yn adran 5 o’r Ddeddf honno).

(6) Nid oes hawl gan unigolyn, sydd wedi ei awdurdodi am y tro at ddibenion rheoliad 4, i arfer unrhyw bwerau a roddir i swyddog awdurdodedig gan y rheoliad hwnnw, ac eithrio at ddibenion ymchwilio i dwyll tai.

(7) Caiff swyddog awdurdodedig arfer y pwerau a roddir o dan reoliad 4 mewn perthynas â thŷ annedd—

(a)     p’un a yw'r tŷ annedd hwnnw yn cael ei osod neu wedi ei osod o dan denantiaeth a’r landlord yw, neu a oedd, yr awdurdod a roddodd yr awdurdodiad i’r swyddog ai peidio; a

(b)     p’un a yw'r tŷ annedd hwnnw wedi ei leoli yn ardal yr awdurdod a roddodd yr awdurdodiad i'r swyddog ai peidio.

Pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth yn cael ei darparu

4.(1)(1) Caiff swyddog awdurdodedig sydd â sail resymol dros amau bod person—

(a)     yn berson sy'n dod o fewn paragraff (2); a

(b)     bod ganddo, neu y gallai fod ganddo yn ei feddiant, neu fod ganddo neu y gallai fod ganddo fynediad at, unrhyw wybodaeth, am unrhyw fater sy'n berthnasol i ddibenion ymchwilio i dwyll tai,

ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i'r person hwnnw ddarparu’r cyfan o’r cyfryw wybodaeth a ddisgrifir yn yr hysbysiad ac sydd ym meddiant y person hwnnw, neu y mae gan y person hwnnw fynediad ati, ac y mae’n rhesymol i'r swyddog awdurdodedig ofyn amdani at y diben a grybwyllir felly.

(2) Dyma'r personau a ddaw o fewn y paragraff hwn—

(a)     unrhyw fanc;

(b)     unrhyw berson sy'n cynnal busnes y mae’r cyfan neu ran sylweddol ohono yn cynnwys darparu credyd (boed hwnnw'n sicredig neu’n ansicredig) i aelodau'r cyhoedd;

(c)     unrhyw ymgymerwr dŵr neu ymgymerwr carthffosiaeth;

(d)     unrhyw berson sydd—

                           (i)    yn dal trwydded o dan adran 7 o Ddeddf Nwy 1986([3]) i gludo nwy drwy bibellau; neu

                         (ii)    syn dal trwydded o dan adran 7A o'r Ddeddf honno([4]) i gyflenwi nwy drwy bibellau;

(e)     unrhyw berson sydd (yn yr ystyr a roddir i “distribute” a “supply”, yn eu trefn, yn Neddf Trydan 1989([5])) yn dosbarthu neu'n cyflenwi trydan;

(f)      unrhyw berson sy'n darparu gwasanaeth telathrebu; neu

(g)     unrhyw was neu asiant i unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (f).

(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, mae'r pwerau a roddir gan y rheoliad hwn i swyddog awdurdodedig, i’w gwneud yn ofynnol  i unrhyw berson ddarparu gwybodaeth yn rhinwedd y ffaith bod y person hwnnw yn dod o fewn paragraff (2), yn arferadwy yn unig at ddiben cael gwybodaeth mewn perthynas â pherson penodol a nodir (drwy enw neu ddisgrifiad) gan y swyddog.

(4) Ni chaiff swyddog awdurdodedig, wrth arfer y pwerau hynny, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu unrhyw wybodaeth yn rhinwedd y ffaith bod y person hwnnw yn dod o fewn paragraff (2), onid yw’n ymddangos i'r swyddog hwnnw fod seiliau rhesymol dros gredu bod y person y mae'n ymwneud ag ef—

(a)     yn berson sydd wedi cyflawni, sy’n cyflawni neu sy'n bwriadu cyflawni trosedd a restrir yn adran 7(7) o Ddeddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013; neu

(b)     yn berson sy’n aelod o deulu person sy'n dod o fewn is-baragraff (a).

(5) Nid yw'r pwerau a roddir gan y rheoliad hwn yn arferadwy at ddiben cael gan unrhyw berson sy'n darparu gwasanaeth telathrebu unrhyw wybodaeth ac eithrio'r wybodaeth sydd (yn yr ystyr a roddir i “communications data” a “traffic data”, yn eu trefn, yn adran 21 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000([6])) yn ddata cyfathrebu ond heb fod yn ddata traffig.

(6) Nid oes unrhyw beth ym mharagraff (3) neu (4) yn atal person awdurdodedig rhag arfer y pwerau a roddir gan y rheoliad hwn i’w gwneud yn ofynnol bod person sy'n darparu gwasanaeth telathrebu yn darparu gwybodaeth ynglŷn â hunaniaeth a chyfeiriad post person a adnabyddir gan y swyddog awdurdodedig drwy gyfeirio at rif ffôn neu gyfeiriad electronig a ddefnyddir mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth o'r fath yn unig.

(7) Caiff rhwymedigaeth person i ddarparu gwybodaeth yn unol â hysbysiad o dan y rheoliad hwn ei gyflawni yn unig drwy ddarparu'r wybodaeth honno, ar ba adeg resymol ac ar ba ffurf bynnag a bennir yn yr hysbysiad, i’r swyddog awdurdodedig sydd—

(a)     yn cael ei nodi gan delerau'r hysbysiad, neu yn unol â hwy; neu

(b)     wedi cael ei nodi, ers i'r hysbysiad gael ei roi, gan hysbysiad ysgrifenedig pellach a roddwyd gan y swyddog awdurdodedig a osododd y gofyniad gwreiddiol, neu swyddog awdurdodedig arall.

(8) Mae pŵer swyddog awdurdodedig o dan y rheoliad hwn i'w gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol i ddangos ac ildio meddiant ac (os oes angen) i greu unrhyw ddogfennau o'r fath sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad sy'n gosod y gofyniad, neu greu copïau o unrhyw ddogfennau o'r fath neu ddyfyniadau ohonynt.

(9) Ni fydd yn ofynnol i unrhyw berson o dan y rheoliad hwn i ddarparu—

(a)     unrhyw wybodaeth sy’n tueddu i argyhuddo naill ai'r person hwnnw neu, yn achos person sy’n briod neu sy'n bartner sifil, briod neu bartner sifil y person hwnnw; neu

(b)     unrhyw wybodaeth y byddai hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol yn llwyddiannus mewn perthynas â hi mewn unrhyw achos,

ac at ddibenion y paragraff hwn nid yw o bwys a yw'r wybodaeth ar ffurf ddogfennol ai peidio.

(10) Yn y rheoliad hwn—                                ystyr “banc” ( “bank”) yw—

(a) person sydd â chaniatâd o dan Ran 4A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000([7]) i dderbyn adneuon;

(b) cwmni AEE o'r math a grybwyllir ym mharagraff 5(b) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno([8]) sydd â chaniatâd o dan baragraff 15 o'r Atodlen honno([9]) (o ganlyniad i gymhwyso am awdurdodiad o dan baragraff 12 o'r Atodlen honno([10])) i dderbyn adneuon neu gronfeydd ad-daladwy eraill gan y cyhoedd; neu

(c) person nad yw'n ofynnol iddo gael caniatâd o dan y Ddeddf honno i dderbyn adneuon yn rhan o fusnes y person hwnnw yn y Deyrnas Unedig;

mae gan “gwasanaeth telathrebu” yr un ystyr a roddir i “telecommunications service” yn Neddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000; ac

mae “teulu” (“family”) i’w ddehongli yn unol ag adran 113 o Ddeddf Tai 1985([11]).

(11) Rhaid darllen y diffiniad o “banc” (“bank”) ym mharagraff (10) yn unol ag—

(a)     adran 22 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000([12]);

(b)     unrhyw orchymyn perthnasol o dan yr adran honno; ac

(c)     Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Achosi oedi i swyddog awdurdodedig, ei rwystro etc.

5.(1)(1) Os bydd person (P)—

(a)     yn achosi oedi i swyddog awdurdodedig neu'n ei rwystro wrth iddo arfer unrhyw bŵer o dan reoliad 4, a hynny'n fwriadol; neu

(b)     yn gwrthod neu yn methu, heb esgus rhesymol, ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddarparu unrhyw ddogfen pan ofynnir iddo wneud hynny o dan reoliad 4,

mae P yn euog o drosedd ac yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(2) Pan fo P yn cael ei gollfarnu am drosedd o dan baragraff (1)(b) a bod P yn parhau â'r gwrthodiad neu'r methiant wedi i P gael ei gollfarnu, bydd P yn euog o drosedd bellach ac yn agored, o’i gollfarnu’n  ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na £40 am bob diwrnod y bydd yn parhau.

Troseddau gan gyrff corfforaethol

6.(1)(1) Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r drosedd honno a bydd yn agored i gael ei erlyn yn unol â hynny.

(2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau rheoli'r aelod hwnnw fel petai'r aelod hwnnw yn gyfarwyddwr o'r corff corfforaethol.

 

 

Enw

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 



([1])  2013 p.3.

([2]) 1989 p.42. Gwnaed diwygiadau i adrannau 4 a 5 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.         

([3]) 1986 p.44. Amnewidiwyd adran 7 gan adran 5 o Ddeddf Nwy 1995 (p.45) a diwygiwyd is-adran (1) wedi hynny gan adran 76 o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27). Nid yw diwygiadau eraill a wnaed i'r is-adran honno ac adran 7 yn fwy cyffredinol yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([4]) Mewnosodwyd adran 7A gan adran 6(1) o Ddeddf Nwy 1995 (p.45). Diwygiwyd is-adrannau (1) a (2) wedi hynny gan adran 3(2) o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27); diwygiwyd is-adran (2) ymhellach gan adran 108 o’r Ddeddf honno a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 6 iddi; a diwygiwyd is-adran (3) gan adran 149 o Ddeddf Ynni 2004 (p.20). Gwnaed diwygiadau eraill i adran 7A nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.    

([5]) 1989 p.29.        

([6]) 2000 p.23.        

([7]) 2000 p.8. Mewnosodwyd Rhan 4A gan adran 11(2) o Ddeddf Gwasanaethau Ariannol 2012 (p.21).               

([8]) Amnewidiwyd is-baragraff (b) gan reoliad 29 o O.S. 2006/3221, a pharagraff 2 o Atodlen 3 iddo.  

([9]) Diwygiwyd is-baragraff (1) o baragraff 15 gan O.S. 2007/3253. Nid yw diwygiadau eraill a wnaed i baragraff 15 yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.          

(4) Mewnosodwyd is-baragraff (9) o baragraff 12 gan O.S. 2012/1906.  Nid yw diwygiadau eraill a wnaed i baragraff 12 yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.   

(1) 1985 p.68.        

(2) Amnewidiwyd y pennawd i adran 22 gan adran 7(1)(d) o Ddeddf Gwasanaethau Ariannol 2012 (p.21). Nid yw diwygiadau eraill a wnaed i adran 22 yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.